Y Pwyllgor Cyllid

FIN(4) 19-12 – Papur 1

Buddsoddi i Arbed

Papur Tystiolaeth a ddarparwyd gan Jane Hutt, y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ (Hydref 2012)

 

 

C1. Pa effaith a gaiff y gronfa Buddsoddi i Arbed, a yw'n cyflawni ei dibenion, i “helpu sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau cyhoeddus, trwy sicrhau bod y gwaith o newid eu ffordd o ddarparu gwasanaethau yn mynd rhagddo mewn modd effeithlon, effeithiol a chynaliadwy”?

 

Mae’r gronfa Buddsoddi i Arbed yn gwneud cyfraniad gwerthfawr trwy helpu darparwyr gwasanaethau cyhoeddus i ddatblygu a chynnal gwasanaethau sy’n canolbwyntio ar y dinesydd ac sydd o ansawdd da, yn effeithiol ac yn effeithlon. Drwy’r Gronfa rydym wedi cefnogi 59 o brosiectau gwella gwasanaethau cyhoeddus ac wedi buddsoddi £65 miliwn o arian ad-daladwy. Rhagwelir buddion a gwelliannau sylweddol i wasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys sicrhau arbedion ariannol, o’r buddsoddiadau hyn.

 

Rwyf wedi alinio’r Gronfa gyda rhaglen Llywodraeth Cymru i wella’r gwasanaethau cyhoeddus ac yn benodol gyda’r mentrau allweddol sy’n cael eu hyrwyddo gan ffrydiau gwaith Grŵp Arwain y Gwasanaeth Cyhoeddus. Mae hyn wedi arwain at fuddsoddi mewn mentrau sy’n gysylltiedig â chaffael, asedau’r sector cyhoeddus a phobl agored i niwed.

 

Mae enghreifftiau o brosiectau a gefnogir gan y Gronfa yn cynnwys: Uned Cymorth Rhagnodi Dadansoddol GIG Cymru sydd, trwy ddadansoddi data presgripsiynu, wedi hyrwyddo presgripsiynu diogel, clinigol effeithiol a chost-effeithiol ledled Cymru. Mae’r prosiect eisoes wedi rhoi gwybod am arbedion o £5.8 miliwn; a phrosiect Gorsaf Wybodaeth Casnewydd yn Un sy’n darparu amrywiaeth o wasanaethau hygyrch mewn un man a gynlluniwyd o gwmpas y gymuned leol. Mae arbedion maint ac arbedion ariannol yn cael eu sicrhau trwy ddwyn darparwyr gwasanaethau cyhoeddus ynghyd i rannu adnoddau, cyfarpar a lle swyddfa a thrwy ryddhau asedau dros ben.

 

C2. I ba raddau y manteisiwyd ar y gronfa?

Manteisiwyd yn llawn ar y Gronfa ers ei hail flwyddyn, a hynny gan y GIG, llywodraeth leol a sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus eraill o bob cwr o Gymru. Cyhoeddais fanylion buddiolwyr y Gronfa pan osodais y Gyllideb Ddrafft ar 2 Hydref yn yr adroddiad Buddsoddi i Arbed 3, yr wyf yn ei amgáu yn atodiad 1.

C3. Pa wersi a ddysgwyd, ac a oes modd i enghreifftiau o arfer da gael eu rhannu a’u hymestyn yn ehangach drwy’r sector cyhoeddus?

Mae’r Gronfa’n mynd ati i ledaenu’r gwersi a ddysgwyd a’r arferion da sy’n deillio o’r prosiectau. Yn fy natganiad i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ym mis Mehefin am Fuddsoddi i Arbed, soniais am bwysigrwydd dysgu o’r prosiectau sy’n bodoli eisoes a’r angen i gasglu, rhaeadru a hyrwyddo gwybodaeth.  Mae’r gwasanaeth cyhoeddus ehangach yn awr yn elwa ar brofiadau a gwersi’r rheini sydd wedi datblygu prosiectau gwella. 

Mae buddiolwyr y Gronfa Buddsoddi i Arbed yn casglu’r gwersi a ddysgwyd ac yn eu rhannu ar draws y sector cyhoeddus. Bu cynnydd gwirioneddol yn y maes hwn ac mae llawer o’r prosiectau mwy datblygedig eisoes wedi darparu astudiaethau achos byr, yr wyf wedi’u cyhoeddi mewn cyfres o adroddiadau Buddsoddi i Arbed.   

Trwy gyhoeddi’r fath adroddiadau, rwy’n codi’r ymwybyddiaeth gyffredinol o’r gwahanol fentrau sy’n cael eu cynorthwyo gan y Gronfa Buddsoddi i Arbed, ac yn annog y rheini sy’n ymwneud â chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus i gael gwybod mwy am fentrau penodol sy’n berthnasol ac y byddai o bosibl yn ddefnyddiol eu hefelychu yn y meysydd cyflenwi gwasanaethau maent yn gyfrifol amdanynt. 

Un o'r gwersi cynnar a ddysgwyd o’r dull Buddsoddi i Arbed yw y gellir yn realistig ddarparu cyllid grant fel arian ad-daladwy i helpu i gyflenwi prosiectau gwella gwasanaethau cyhoeddus. Wedi mabwysiadu’r dull newydd hwn gallwn gynnal cronfa gynaliadwy er mwyn parhau i fuddsoddi mewn gwelliannau i wasanaethau cyhoeddus.   

C4. Pa arbedion a wnaethpwyd o ganlyniad i ddyfarnu rhoddion o’r gronfa?

Bydd gennym ddarlun cliriach o hyn wrth i brosiectau a gefnogir symud o’r cam gweithredu i’r cam cyflawni, ond mae’r arwyddion cynnar yn galonogol iawn. Mae’r prosiectau’n dweud eu bod yn gwneud cynnydd da tuag at gyflenwi’r buddion a ragwelwyd, ac mae’r holl brosiectau a gefnogir wedi ad-dalu’r symiau gofynnol o’r buddsoddiadau Buddsoddi i Arbed yn unol â’u hamserlenni cytunedig, sef cyfanswm o fwy na £9 miliwn hyd yma. Am y flwyddyn ariannol hon a’r nesaf rydym ar y trywydd iawn i gael £25 miliwn arall.         

C5. A oes unrhyw rwystrau i fanteisio ar y gronfa, h.y. a oes unrhyw elfennau o broses y gronfa Buddsoddi i Arbed sy’n ei gwneud yn anodd i gymryd rhan yn y cynllun?

 

Mae fy swyddogion yn adolygu prosesau’r Gronfa’n gyson er mwyn sicrhau eu bod yn briodol, yn glir ac yn cael eu deall. Ein nod yw sicrhau bod buddsoddiadau mor hygyrch ag sy’n bosibl i brosiectau gwella gwasanaethau cyhoeddus sy’n bodloni meini prawf y Gronfa (gweler atodiad 2).

 

 

Jane Hutt

Y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ

31 Hydref 2012